Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 9 Mawrth 2016

Amser y cyfarfod: 13.00
 


(321)v3

<AI1>

   Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

   Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

   Dadl ar Setliad Llywodraeth Leol 2016-17

(60 munud)

NDM5988 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2016-2017 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016.

Dogfen Ategol

Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2016-2017 (Setliad Terfynol – Cynghorau) (Saesneg yn unig)

</AI3>

<AI4>

   Dadl ar Setliad yr Heddlu 2016-17

(30 munud)

NDM5989 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2016-2017 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016.

Dogfen Ategol

Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2016-2017 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu) (Saesneg yn unig)

</AI4>

<AI5>

   Cyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Tynnwyd yn ôl

(0 munud)

</AI5>

<AI6>

   Cynnig i gymeradwyo diwygiadau i'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad

(10 munud)

NDM5990 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn mabwysiadu'r Cod Ymddygiad diwygiedig ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016.

Dogfen Ategol

Cod Ymddygiad Ar Gyfer Aelodau'r Cynulliad

</AI6>

<AI7>

   Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

(60 munud)

NDM4945

Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y ffaith bod rhwng 300 a 350 o bobl yn marw o ganlyniad i hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru, gyda'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai hunanladdiad yw'r prif achos o farwolaeth ymhlith pobl ifanc rhwng 20 a 34 oed;

2. Yn cydnabod bod pobl sydd wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl mewn perygl arbennig ac amcangyfrifir bod gan 90 y cant o bobl sy'n ceisio cyflawni hunanladdiad neu'n marw o ganlyniad i hunanladdiad un neu fwy o gyflyrau iechyd meddwl;

4. Yn credu bod angen gwneud mwy i annog pobl i siarad yn agored am hunanladdiad a theimladau hunanladdol, i godi ymwybyddiaeth a helpu i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael i deimlo eu bod yn dioddef ar eu pen eu hunain;

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gwella'r broses o gasglu data i adnabod y rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf;

b) sicrhau bod cymorth dilynol ar gael i bobl sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ar ôl hunan-niwed neu geisio cyflawni hunanladdiad;

c) darparu ffyrdd mwy effeithiol o gyfeirio pobl at wasanaethau gwrando ac eiriolaeth;

d) edrych ar gyflawni prosiectau megis y parth tawelwch yn Lerpwl sy'n darparu cyngor sydd ar flaen y gad mewn ffordd sy'n briodol i oedran ac sy'n apelio at bobl ifanc, ac enghreifftiau cenedlaethol a rhyngwladol eraill o arferion gorau; ac

e) asesu'r cymorth sydd ar gael i deuluoedd unigolion sydd â salwch meddwl.

Cefnogir gan:

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

</AI7>

<AI8>

   Dadl ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod

(60 munud)

NDM5991 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i gydnabod cyflawniad cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod yng Nghymru, a'r angen parhaus i gyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau – a hynny'n benodol mewn bywyd cyhoeddus.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi mai'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau cyfredol yw'r isaf a gofnodwyd erioed.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod mwy o fenywod yn gweithio yn y DU nag erioed o'r blaen.

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd tablau cynghrair sy'n rhestru cwmnïau mawr yn ôl trefn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cael eu cyhoeddi erbyn 2018.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod menywod sy'n gweithio yng Nghymru wedi wynebu cynnydd mwy mewn costau gofal plant nag mewn mannau eraill yn y DU.

</AI8>

<AI9>

   Cyfnod pleidleisio

 

</AI9>

<AI10>

   Dadl Fer

(30 munud)

NDM5987 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cadw llywodraeth leol yn lleol - yr achos dros ddiogelu Sir Benfro rhag cynlluniau uno Llywodraeth Cymru.

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 15 Mawrth 2016

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>